Mae gan dîm y Gyfadran brofiad eang mewn Gofal Iechyd Deintyddol. Mae gan bob aelod arbenigedd unigryw yn adeiladu, datblygu a darparu addysg, hyfforddiant a chefnogaeth broffesiynol.
Mae Paul Brocklehurst yn Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor ac yn Gyfarwyddwr yr Uned Dreialon yng Ngogledd Cymru. Mae hefyd yn Ymgynghorydd er Anrhydedd ym maes Iechyd Deintyddol Cyhoeddus. Mae ei ddiddordebau'n cynnwys dirprwyo swyddogaethau, gofal y geg i bobl hŷn, cynllunio'r gweithlu ac ymchwil gweithredu. Mae'n aelod o dri bwrdd cyllido i'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd ac hyd yma mae wedi denu dros £2.5M mewn cyllid ymchwil (£1.5M ym maes dirprwyo swyddogaethau)
Mae Fiona yn Hylenydd Deintyddol, Therapydd Deintyddol ac Addysgwr Meddygol (MSc) gymwysedig. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i'r GIG fel Arweinydd Rhanbarthol Addysg Ddeintyddol Ôl-radd Gogledd Cymru ac fel Addysgwr Deintyddol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae hi hefyd yn Gysylltai Addysg i'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac yn Arholwr i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghaeredin ac yn un o gyn-lywyddion Cymdeithas Therapyddion Deintyddol Prydain. Yn ddiweddar gwnaed Fiona yn Gymrawd yng Nghyfadran Hyfforddwyr Deintyddol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Caeredin
Mae Fiona yn Nyrs Ddeintyddol gymwysedig gyda chymwysterau ôl-radd mewn Iechyd Cyhoeddus, Mentora a Chymell, ac Astudiaethau Addysg. Mae hi'n gweithio ym maes Orthodonteg fel arweinydd Addysg, Sicrhau Ansawdd a Gwelliant gyda Phrifysgol Warwick. Mae Fiona hefyd yn Arholwr Allanol ac yn Gysylltai Addysg i'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Mae'n aelod o Fwrdd Ymgynghorol Addysg Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Caeredin; yn gyn-lywydd Cymdeithas Therapyddion Deintyddol Prydain; yn Gadeirydd presennol y Grŵp Cenedlaethol er Hyrwyddo Iechyd y Geg; yn un o Noddwyr Cymdeithas Nyrsys Deintyddol Prydain; ac yn Is-gadeirydd Cymdeithas Hylendid a Therapi Deintyddol Prydain. Mae Fiona yn Gymrawd gyda'r Gyfadran Ymarfer Deintyddol Cyffredinol, y Gyfadran Hyfforddiant Deintyddol yng Ngholeg Brenhinol y Llawfeddygon, a’r Sefydliad Rheolaeth Weinyddol.
Rheolwr Project ym Mhrifysgol Bangor yw Chris Woods ac mae ei gefndir addysgol ac ymchwil ym maes Biobeirianneg. Cymhwysodd Chris fel Peiriannydd Mecanyddol cyn arbenigo mewn Biobeirianneg. Mae wedi rheoli projectau gofal iechyd mawr gyda chyllid cyhoeddus a oedd yn ymwneud yn benodol â dyfeisiau meddygol, ymyrraeth gymhleth a deintyddiaeth.