Cymraeg

Cydgynhyrchu

Mae Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol yn gweithio gyda lab4living i sicrhau bod egwyddorion cydgynhyrchu wedi'u hymgorffori yn rhan o'r fenter.

Diffinnir cydgynhyrchu fel proses sy'n “dylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu comisiynu a'u darparu” [Deddf Gofal, 2014].

I'r perwyl hwn, mae Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol wedi gweithio gyda'r rhanddeiliaid allweddol canlynol:

Cymdeithasau proffesiynol:

Cynhaliwyd cyfarfodydd i edrych yn fanwl ar y cwestiynau cyffredinol canlynol:

  • Beth yw anghenion iechyd poblogaeth Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol?
  • Beth yw rôl y gweithlu presennol a gweithlu'r dyfodol wrth ddiwallu'r anghenion hyn o ran iechyd y geg?
  • Beth yw'r egwyddorion allweddol wrth ddatblygu'r gweithlu ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf?

Canfyddiadau'r cyfarfodydd cydgynhyrchu hyn sydd wedi llywio amcanion, strategaethau addysg a chynlluniau datblygu sgiliau'r gyfadran.