Mae Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol ('Y Gyfadran') yn fenter sy'n cael ei llywio gan bolisi, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Gwyliwch yr animeiddiad i gael manylion am bolisïau trosfwaol Llywodraeth Cymru a arweiniodd at ddatblygu'r Gyfadran…
Mae'r Gyfadran yn ceisio darparu llwyfan i gyfoethogi'r amgylchedd hyfforddi ynghyd â gallu, lles ac ymgysylltiad Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol ledled Cymru.
Mae'r Gyfadran wedi'i lleoli yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor.
Mae'r sefyllfa unigryw hon yn galluogi'r Gyfadran i fanteisio ar y ddarpariaeth addysgol eang y mae'r ysgol yn ei darparu, gan wella natur gyfannol ein cyfleoedd hyfforddi. O ganlyniad, gallwn fanteisio ar y dreftadaeth gyfoethog sydd gan yr Ysgol o ran hyfforddi nyrsys a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig eraill ym maes iechyd. Bydd hyn yn cynyddu hyblygrwydd a chyfleoedd rhyngbroffesiynol hyfforddiant Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol.
Bydd y Gyfadran yn rhoi cefnogaeth i Weithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol i ymgysylltu â dysgu gydol oes ac arferion adfyfyriol a fydd yn meithrin y safonau uchaf o ran ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Byddwn hefyd yn dod â Gweithiwr Proffesiynol Gofal Deintyddol i gyswllt â pholisi gofal iechyd cymhwysol ac yn rhoi'r cyfle iddynt werthuso a datblygu ymarfer proffesiynol a'i wella lle bo modd gwneud hynny.