Datblygwyd y cyrsiau byr i gynnig sgiliau ychwanegol penodol i rai sydd eisoes yn Nyrsys Deintyddol. Dewiswyd y sgiliau a gynigir ar y rhaglenni hyn i gyd-fynd â gofynion y gweithlu yn seiliedig ar anghenion poblogaeth ddeintyddol sy'n newid.
Cymhwyster yw hwn ar gyfer Nyrsys Deintyddol presennol sy'n dymuno ennill sgiliau uwch penodol i'w helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd. Mae'r cyrsiau hyn hefyd yn berthnasol i Nyrsys Cofrestredig ac i Broffesiynau Eraill sy'n Berthynol i Iechyd sydd eisiau ennill arbenigedd mewn maes gofal iechyd penodol.
Mae Cyrsiau Ar-lein Enfawr Agored yn ffordd hyblyg o ennill cymhwyster achrededig gan brifysgol gan wneud hynny yr un pryd ag ymrwymiadau presennol.
Mae Cyrsiau Ar-lein Enfawr Agored ar gael mewn:
Mae dyddiadau dechrau'r rhaglen yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs. Mae rhai yn cael eu cynnal nawr, ac mae eraill wrthi'n cael eu datblygu.
Dyfernir y cymhwyster gan Brifysgol Bangor drwy'r Gyfadran. Fodd bynnag, caiff y cyrsiau eu cyflwyno drwy lwyfan dysgu ar-lein.
Bydd gwahanol ddulliau o addysgu, dysgu ac asesu yn cael eu cynnig gan gynnwys cwisiau, ffilmiau, podlediadau a blogiau.
More of our courses: