Mae Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol ym Mhrifysgol Bangor yn falch o gynnig Tystysgrif Addysg Uwch cyn-gofrestru mewn Nyrsio Deintyddol Uwch sy'n arwain at fedru cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Mae cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn orfodol yn y Deyrnas Unedig i ymarfer fel Nyrs Ddeintyddol.
Bydd y rhaglen, sy'n cael ei dilysu ar hyn o bryd, yn cael ei chyflwyno dros ddwy flynedd academaidd ar sail ran-amser gan arwain at ddyfarnu Tystysgrif Addysg Uwch mewn Nyrsio Deintyddol Uwch.
Nod y rhaglen yw darparu addysg Nyrsys Deintyddol sy'n mynd i'r afael â'r holl feincnodau proffesiynol perthnasol, gan gynhyrchu nyrsys deintyddol a all ymarfer yn ddiogel, gyda'r wybodaeth a'r sgiliau y mae arnynt eu hangen i ymestyn eu cwmpas ymarfer yn fedrus ac yn ddiogel. .
Ffeithiau am y Cwrs
Enw: Nyrsio Deintyddo
Cysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ychwanegol am agweddau academaidd y cwrs, anfonwch e-bost at: info@awfdcp.ac.uk
Cymhwyster ymadael y rhaglen yw Tystysgrif Addysg Uwch. Mae'r rhaglen yn paratoi nyrsys deintyddol ar gyfer cofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol a bydd yn bodloni holl ofynion “Preparing for Practice: Dental nursing learning outcomes for registration”, sef y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol y nodir eu bod yn ofynnol yn "Pennu Safonau Prentisiaethau i Gymru", Llywodraeth Cymru. Bydd y pum modiwl ym Mlwyddyn 1 yn sail i ymarfer nyrsio deintyddol diogel ac effeithiol, ac yn canolbwyntio'n bennaf ar sgiliau astudio, iechyd a diogelwch, gweithdrefnau clinigol a bydd y pwyslais yn newid tuag at weithio mewn amgylchedd proffesiynol a rheoli gofal. Hwylusir hyn gan gwricwlwm sbiral.
Bydd Blwyddyn 2 y rhaglen yn adeiladu ar y sylfaen hon, ac yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a'u gallu i weithio o fewn terfynau Cwmpas Ymarfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Bydd modiwlau dewisol yn cael eu defnyddio i sicrhau bod y rhaglen yn bodloni anghenion y grŵp amrywiol hwn o fyfyrwyr, eu gweithleoedd ac anghenion y boblogaeth leol o ran iechyd y geg, ac yn galluogi'r myfyrwyr i ddewis modiwlau sy'n adlewyrchu eu dyheadau a gofynion eu cyflogwyr.
Mae pob modiwl yn defnyddio cymysgedd o ddulliau addysgu, gan roi sylw i'r pwnc, i faint y grŵp myfyrwyr, i brofiad blaenorol y myfyrwyr ac i'r adnoddau sydd ar gael. Bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o ddulliau asesu a gynlluniwyd i sicrhau bod cynnwys, deilliannau a lefel y modiwlau yn cael eu mesur mewn modd teg a thryloyw. Mae'r dulliau asesu'n cynnwys portffolio, arholiadau atebion byr, astudiaethau achos, projectau ac adolygiadau.
Bydd y rhaglen yn galluogi'r myfyrwyr sy'n cwblhau holl ofynion y rhaglen yn llwyddiannus i gael tystysgrif addysg uwch a chofrestru gyda'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac ymarfer fel Nyrs Ddeintyddol.
Drwy gydol y rhaglen hon, bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflogi mewn lleoliad deintyddol ac o'r herwydd, ar ôl graddio, mae'n debygol iawn y bydd eu cyflogwyr yn awyddus i ddefnyddio'u sgiliau er budd y cleifion a'r lleoliad deintyddol.
At hynny, rhagwelir y bydd y diwygio sy'n digwydd ar hyn o bryd ym maes deintyddiaeth yn creu bylchau gwybodaeth a sgiliau ymhlith y gweithlu deintyddol i'r dyfodol. Bydd y myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen hon ymhlith lleiafrif bychan iawn o nyrsys deintyddol a fydd wedi cael eu haddysgu a'u harfogi ag ystod eang o sgiliau clinigol uwch y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Bydd y sgiliau hynny yn fanteisiol iddynt yn eu gyrfa ac yn chwarae rhan hanfodol wrth fodloni'r galwadau cynyddol sydd ar wasanaethau deintyddol.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen, mae'r myfyrwyr yn debygol o gael eu cyflogi fel nyrsys deintyddol, ond efallai y bydd arnynt eisiau defnyddio'r cymhwyster hwn i barhau â'u haddysg i ddilyn gyrfa fel;
• Hylenydd deintyddol
• Therapydd deintyddol
• Therapydd orthodontig
• Technolegydd deintyddol clinigol
• Technegydd labordy
• Deintydd
Mae llwybrau gyrfa a dilyniant sy'n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddilyn astudiaethau addysg uwch pellach.
Mae gan Brifysgol Bangor gysylltiadau cryf â'r awdurdodau gofal iechyd lleol yng Ngogledd Cymru a bydd y rhain yn cynyddu wrth i'r rhaglen hon ddatblygu.
Mae gan Brifysgol Bangor gysylltiadau cryf â'r awdurdodau gofal iechyd lleol yng Ngogledd Cymru a bydd y rhain yn cynyddu wrth i'r rhaglen hon ddatblygu.
Ceir cyngor am yrfaoedd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol wrth ymarfer ac mewn sesiynau gyrfaoedd penodol ac mae gan wasanaeth Gyrfaoedd y GIG ragor o fanylion am y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael i raddedigion. Byddwch hefyd yn gymwys i gofrestru am Wobr Cyflogadwyedd Bangor i wella eich rhagolygon gyrfa ac mae cyngor ar gael hefyd gan Wasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor.
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y brifysgol yn darparu amrywiaeth eang o adnoddau i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau ar ôl i chi raddio. Mae datblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra ydych yn y brifysgol yn dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi sydd ohoni.
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn galluogi myfyrwyr i adeiladu ar eu sgiliau trosglwyddadwy trwy ennill cydnabyddiaeth am y gweithgareddau maent wedi cymryd rhan ynddynt yn ystod eu cyfnod yn y brifysgol. Gall myfyrwyr ennill pwyntiau tuag at y wobr hon drwy weithgareddau allgyrsiol megis gwirfoddoli, mynd i weithdai neu gymryd rhan yng nghlybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr.
Adroddiad a gaiff pob myfyriwr israddedig ar ôl graddio yw'r Adroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch. Mae'r adroddiad yn rhestru pob llwyddiant academaidd ac unrhyw lwyddiannau cyd-gwricwlaidd ac ychwanegol. Bydd llwyddiannau academaidd yn ymddangos yn yr adroddiad yn awtomatig a gall myfyrwyr gofnodi unrhyw weithgareddau cymwys a wnânt trwy ddefnyddio'r llwyfan ar-lein 'Fy Hwb Cyflogadwyedd'. Mae hyn yn sicrhau bod cyflogwyr yn y dyfodol yn ymwybodol o'r sgiliau ychwanegol y mae'r myfyriwr wedi'u hennill y tu hwnt i'r cwricwlwm.
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cynnig cymorth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod eu hastudiaethau ac wedyn.
Bydd angen gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â pholisïau, gweithdrefnau a rheoliadau'r Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol.
Mae'r rhaglen hon ar gael fel rhan o fframwaith prentisiaethau Cymru (Yr Adran Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes), felly mae'n rhad ac am ddim.
Mae'r rhaglen ar gael i bobl o'r tu allan i Gymru, fodd bynnag codir tâl am y cwrs yn yr achos hwnnw. Cysylltwch â'ch darparwr addysg lleol i holi am gostau'r cwrs.
Anogir ceisiadau cynnar i gael mynediad i'r rhaglen. Dylai unigolion wneud cais i ddarparwyr addysgol y rhaglen. Colegau addysg bellach yw'r darparwyr hyn a nhw fydd yn cyflwyno'r rhaglen sydd wedi ei chymeradwyo gan y Gyfadran.
Rydym ar hyn o bryd yn trafod â'r darparwyr addysgol sut y bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno. Edrychwch ar y wefan eto'n fuan i weld rhestr o ddarparwyr cymeradwy.
Os ydych chi'n ddarparwr addysgol sydd â diddordeb, cysylltwch â'r gyfadran info@awfdcp.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ofynion mynediad, sut i wneud cais neu am y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, mae croeso i chi gysylltu â'r Gyfadran: info@awfdcp.ac.uk Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
I gael gwybodaeth fwy penodol, cysylltwch â'r Gyfadran drwy anfon e-bost at info@awfdcp.ac.uk
Cawsom safon Aur, sef y safon uchaf posibl, am ein haddysgu fel rhan o asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu. Roedd asesiad y Fframwaith yn edrych ar ansawdd yr addysgu, yr amgylchedd dysgu a chanlyniadau myfyrwyr a'r hyn y maent yn elwa arno drwy ddysgu. Dywedwyd ein bod yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol i'n myfyrwyr yn gyson a dywedwyd bod ein haddysgu o'r safon uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr mae Prifysgol Bangor ymhlith y 10 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig am foddhad myfyrwyr (ac eithrio sefydliadau arbenigol). Mae hyn yn adlewyrchu pwyslais y brifysgol ar brofiad myfyrwyr drwodd a thro.
I'r rhai hynny sy'n dymuno ennill eu cymhwyster cyntaf mewn Nyrsio Deintyddol. Datblygwyd y rhaglen ar gyfer Nyrsys Deintyddol dan hyfforddiant sy'n bwriadu gwneud pob elfen o'r gwaith yn llawn ac sydd eisiau symud ymlaen ymhellach ym maes deintyddiaeth.
Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 (Tystysgrif AU) mewn Nyrsio Deintyddol Uwch.
Dyma raglen bwysicaf y Gyfadran ac mae wrthi'n cael ei datblygu i'w rhyddhau ym mlwyddyn academaidd 2019/20.
Er bod y cymhwyster yn cael ei ddyfarnu gan Brifysgol Bangor, cyflwynir yr hyfforddiant gan sefydliadau addysg bellach sy'n rhan o'r rhaglen.
Cynhelir y rhaglen yn rhan-amser ochr yn ochr â swydd yn ymarfer fel Nyrs Ddeintyddol dan Hyfforddiant.